skip to navigationskip to main content

Ein haddewidion

Rhesymau ac addewidion gwych a wnawn i chi –  dyna pam y dylech ein ffonio ni cyn penderfynu ar eich cyfrifydd …

Adolygiad treth cychwynnol AM DDIM

er mwyn adnabod yr holl gyfleoedd cynllunio treth nad ydych yn manteisio arnynt ar hyn o bryd.

Gweithio ar amser, bob amser

Cyn belled â bod gwybodaeth yn cael ei gyflwyno mewn pryd, bydd cyfrifon yn cael eu cwblhau cyn pen 30 diwrnod. Dychwelir galwadau ffôn ac e-byst o fewn 24 awr ar y mwyaf ond yn gynt fel arfer.

Argymhellion treth AM DDIM

Yn berthnasol i berchnogion busnes –  fe ddanfonir Awgrymiadau a Newyddion E-Dreth atoch yn rheolaidd trwy e-bost er mwyn eich helpu i dalu llai o dreth. Cwblhewch ein ffurflen gofrestru er mwyn cofrestru.

Rhywun i ddidoli eich holl waith papur

Rydym yn deall y gall cwblhau’r gwaith papur beri straen i lawer o berchnogion busnes sydd wir eisiau bwrw ymlaen â rhedeg ac adeiladu eu busnes. Felly pe dymunwch, gallwn gymryd yr holl waith cadw llyfrau, y gyflogres a gwaith papur arall oddi arnoch yn ogystal â’r cyfrifon blynyddol arferol a’r gwaith treth.

Cyfrifydd hyblyg sy’n siarad Cymraeg / Saesneg clir

Nid oes unrhyw siarad technegol gennym ni. Rydyn ni’n siarad â chi’n agored ac yn onest ac yn addo peidio â’ch dallu â jargon. Rydyn ni am i chi deimlo’n gyffyrddus i godi’r ffôn pa bryd bynnag y bydd arnoch angen gwneud hynny. Cewch gyngor da, dealladwy beth bynnag fo’ch cwestiwn. Byddwn yn gweithio gyda chi yn y ffordd sy’n addas i chi – wyneb yn wyneb, ar y ffôn neu ar-lein.

Our Promises

What Our Clients Say

Meet The Team

Services

Sign up for our newsletter