Beth mae ein cleientiaid yn ei ddweud
-
Mae Shon a Gwyn Thomas wedi ein cefnogi trwy gyfnod heriol o dwf busnes ac mae eu cyngor a'u cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.Rydym bob amser yn cael y cyngor gorau gan weithwyr proffesiynol,profiadol a gwybodus a help gyfeillgar a rhagweithiol o dydd i ddydd gyda’n holl anghenion cyfrifon a chadw llyfra. Mae Shon a'r tîm yn wych ac nid ydym yn gwybod beth fyddem yn ei wneud hebddyn nhw.
Toni Sealey
Tonic Collective -
Ni fyddwn yn oedi o gwbwl cyn argymell Gwyn Thomas and Co (mewn gwirionedd rwyf wedi gwneud hynny i lawer o bobl). Mae'r tîm cyfan yn gyfeillgar, yn gwrtais ac ar gael bob amser i helpu. Fe wnaethant lwyddo i arbed miloedd o bunnau i mi mewn TAW trwy fynd y “filltir ychwanegol”. Yr wyf yn hynod ddiolchgar am hyn. Byddaf yn sicr yn parhau i argymell Gwyn Thomas and Co i ffrindiau a theulu a chwsmeriaid y dyfodol.
Osian Mann
Ymgynghorydd Eiddo -
Ers symud ein hanghenion cyfrifyddiaeth i Gwyn Thomas & Co 3 blynedd yn ôl, mae ein llif arian a'n rheolaeth ariannol wedi gwella'n sylweddol. Rydym wedi darganfod bod y cyngor a roddwyd i ni gan Shon a Gwyn yn amhrisiadwy.
Nick Millington
Cyfarwyddwr - Ross a Hughes Carpets Limited -
Mae Gwyn Thomas and Co wedi bod yn gofalu am gyfrifon fy nghwmni ers 2015. Maent yn wych – bob amser yn cynnig cyngor rhagorol ac yn gyflym i ymateb i unrhyw gwestiynau a allai fod gennyf ynglŷn â sut i redeg fy musnes. Maen nhw'n rhagweithiol hefyd – allwn i ddim gofyn am fwy."
Sam Hardy
Cyfarwyddwr - Vedra Media Limited - Sgwâr Soho - Llundain -
Mae Gwyn a’i dîm wedi bod yn gofalu am fy anghenion cyfrifo ers dros 10 mlynedd. Mae’r cyngor a’r gefnogaeth wedi bod yn un amhrisiadwy yn ystod cyfnod o ehangu, caffael a phontio o fod yn unig fasnachwr i fod yn gwmni cyfyngiedig.Mae'n galonogol cael eu cefnogaeth pryd bynnag y bydd newid mewn deddfwriaeth neu broblem fusnes i'w datrys. Maen nhw’n wir yn gynghorwyr busnes yn ogystal â chyfrifwyr.
Rob Middleton
Zinc (Abersoch) Cyfyngedig